| Gwella Gyda’n Gilydd ym Mhowys: Ceisio’ch barn ar Wasanaethau Cymunedol Iechyd Corfforol a Meddyliol i Oedolion ym Mhowys | Better Together in Powys: Seeking Your Views on Adult Physical and Mental Health Community Services in Powys |
| Rydym yn ceisio eich barn gychwynnol ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddyliol ym Mhowys erbyn 27 Gorffennaf 2025. Mae ein gwefan yn esbonio sut y gallwch ddarganfod mwy a dweud eich dweud. | We are seeking your initial views on adult physical and mental health community services in Powys by 27 July 2025. Our website explains how you can find out more and have your say. |
| Diolch am eich diddordeb yn y cynllun Gwella Gyda’n Gilydd. Ein sgwrs fawr gyda chi ydyw, er mwyn llunio dyfodol gwasanaethau iechyd diogel ac o ansawdd i Bowys a sicrhau bod ein Strategaeth Iechyd a Gofal yn cael eu cyflawni. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chleifion, defnyddwyr gwasanaethau, cymunedau, staff iechyd a gofal, a sefydliadau partner i wella canlyniadau iechyd a gwneud gwasanaethau yn fwy effeithlon ac effeithiol. Er bod gennym rai sylfeini rhagorol i adeiladu arnynt, mae angen i ni nawr newid yn radical y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau fel y gallwn gwrdd â’r galw cynyddol ac anghenion y boblogaeth yn y dyfodol. Mae gennym ddyletswydd gofalu i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n poblogaeth. Mae gennym ddyletswydd hefyd i fyw o fewn ein modd. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni ystyried opsiynau ar gyfer sut a ble y gallem ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Gallai hyn olygu bod angen i gleifion gael mynediad at wasanaethau mewn ffordd wahanol neu mewn lle gwahanol. Byddwn yn gwneud hyn trwy weithredu cynllun ‘Gwella Gyda’n Gilydd’ gyda phobl, partneriaid a staff lleol i lunio gwasanaethau iechyd a gofal sy’n gynaliadwy, yn effeithiol, ac yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysicaf i’n cymunedau. Mae ein gwefan yn esbonio pam mae angen newid, ein lefel o uchelgais i drawsnewid gwasanaethau gofal iechyd, a sut y gallwch ddweud eich dweud. Trwy wrando ar ein cleifion, ac ar ein timau clinigol a phroffesiynol, rydym wedi nodi’r angen i ganolbwyntio ein hymdrechion i ddechrau ar ein gwasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddwl. Mae hyn oherwydd yr heriau y mae’r gwasanaethau hyn yn eu profi, a’r effaith gynyddol y mae hyn yn ei chael ar ansawdd a’n gallu i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Rydym yn ceisio eich barn ar sut rydym yn mynd i’r afael â’r heriau ac yn darparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd cyfleoedd eraill i glywed eich barn ar sut rydym yn mynd i’r afael â heriau eraill a nodwyd o fewn yr Achos dros Newid a gyhoeddwyd gennym ym mis Ebrill. Yn ystod 2025 rydym yn canolbwyntio ar wasanaethau cymunedol iechyd corfforol a meddwl oedolion. Ar ôl hyn, byddwn yn canolbwyntio ar ofal wedi’i gynllunio (fel cleifion allanol arferol, achosion diwrnod llawfeddygol ac ymchwiliadau sy’n helpu i adnabod cyflwr iechyd neu glefyd) ac yna gwasanaethau sy’n cefnogi iechyd plant, teuluoedd a menywod. | Thank you for your interest in Better Together. It is our big conversation with you to shape the future of safe, quality health services for Powys and ensure delivery of our Health and Care Strategy. We are committed to working with patients, service users, communities, health and care staff, and partner organisations to improve health outcomes and make services more efficient and effective. Whilst we have some excellent foundations to build on, we now need to radically change the way we provide services so that we can meet increasing demand and the future needs of the population. We have a duty of care to ensure that we provide high quality services to our population. We also have a duty to live within our means. To achieve this, we need to consider options for how and where we could provide services in the future. This might mean patients need to access services in a different way or in a different place. We will do this by working ‘Better Together’ with local people, partners and staff to shape health and care services that are sustainable, effective, and focused on what matters most to our communities. Our website explains why change is needed, our level of ambition to transform healthcare services, and how you can have your say. Through listening to our patients, and to our clinical and professional teams, we have identified the need to focus our efforts initially on our physical and mental health community services. This is due to the challenges these services are experiencing, and the increasing impact this is having on quality and our ability to provide safe and effective care. We are seeking your views on how we address the challenges and provide sustainable services for the future. There will be other opportunities to hear your views on how we address other challenges identified within the Case for Change which we published in April. During 2025 we are focusing on adult physical and mental health community services. After this, we will focus on planned care (such as routine outpatients, surgical day cases and investigations which help to identify a health condition or disease) followed by services which support children, families and women’s health. |
| Erbyn pryd hoffem glywed eich barn? Hoffem glywed eich barn erbyn hanner nos ddydd Sul 27 Gorffennaf 2025. Rydym ni’n eich gwahodd i edrych ar yr holl ddogfennau gan gynnwys:Darllenwch y ddogfen ymgysylltuDarllenwch y wybodaeth “Achos Dros Newid” a gyhoeddwyd gennym ym mis EbrillAc yna cwblhewch yr arolwg | When do we want views by? We’d like views by midnight on Sunday 27 July 2025. We invite you to view all the documents including: Read the Engagement Document Have a look at the information we published earlier this year about the Case for Change And then complete the survey |
| Bydd ffolder Gwella Gyda’n Gilydd ar gael ym mhob llyfrgell fel y gall pobl ddarllen y Ddogfen Ymgysylltu lawn a chwblhau fersiwn bapur o’r arolwg os nad oes ganddynt fynediad at gyfrifiadur personol/dyfais ar-lein. Gallwch hefyd: Ffonio, ysgrifennu neu e-bostio ni i ofyn am gopïau caled o’r dogfennau.Ffonio ni ar 01874 442917 Gadewch neges yn nodi pa ddogfennau rydych chi eu heisiau gyda’ch enw a’ch cyfeiriad post, gan sillafu unrhyw eiriau anarferol. e.e. Enw’r Tŷ.Ysgrifennu atom yn: Gwella Gyda’n Gilydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Tŷ Glasbury, Ysbyty Bronllys, Bronllys, Powys LD3 0LYE-bostio ni yn: powys.engagement@wales.nhs.ukMynynchu Digwyddiad Galw HeibioYmuno â digwyddiad trafodaeth gyhoeddus Os ydych chi’n hapus i dderbyn gwybodaeth trwy e-bost, gallwch gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Newyddion Ymgysylltu am ddim sy’n anfon gwybodaeth yn uniongyrchol i’ch mewnflwch am gyfleoedd i ddweud eich dweud ar wasanaethau’r bwrdd iechyd. | A Better Together folder will be available at all libraries so people can read the full Engagement Document and complete a paper version of the survey if they don’t have access to a PC/online device. You can also: Call, write to or email us to ask for printed versions of the documentsCall us on 01874 442917. Just leave a message stating what documents you want with your name and postal address, spelling out any unusual words. e.g. House Name.Write to us at: Better Together, Powys Teaching Health Board, Glasbury House, Bronllys Hospital, Bronllys, Powys LD3 0LYEmail us at: powys.engagement@wales.nhs.ukAttend a drop-in eventJoin a public discussion event If you are comfortable receiving information via email you can also sign up for our free Engagement News service which sends information directly to your inbox about opportunities to have your say on health board services. |
| Cofion cynnes | With kind regards |
| Dr Carl Cooper, CadeiryddHayley Thomas, Prif WeithredwrBwrdd Iechyd Addysgu Powys | Dr Carl Cooper, ChairHayley Thomas, Chief ExecutivePowys Teaching Health Board |